Eich cwestiynau

 

Sut mae’n gweithio?

  • Gall disgyblion rhwng 7 -11 oed fynychu’r ganolfan am dymor. Mae disgyblion yn dilyn cwrs wedi’i strwythuro’n ofalus ac yn dod yn rhugl ar lafar yn ogystal â meithrin sgiliau darllen ac ysgrifennu.

 

Beth yw’r manteision?

  • Dengys ymchwil a phrofiad o nifer o wledydd fod trochiad ieithyddol yn yr ail iaith yn effeithiol iawn.

  • Mae’r gymhareb staffio yn hael o 2 athro/athrawes ar gyfer 16 o ddisgyblion.

  • Golyga adnoddau da ynghyd a’r awyrgylch a grëwyd, fod y profiad sydd i’w gael yn un arbennig.

  • Mae’r athrawon yn y Ganolfan yn brofiadol ac yn arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes.

 

Beth mae’r disgyblion yn ei ddweud?

  • Byddaf yn gallu siarad Cymraeg yn dda yn yr ysgol.

  • Rydw i’n gallu ysgrifennu storiâu.

  • Rydw i wrth fy modd yn rapio ac yn canu.

  • Mae gwneud gwaith ar yr iPad yn wych.

  • Rwan rydw i’n deall fy hyfforddwr pêl-droed yn siarad Cymraeg efo fi.

 

Beth mae’r rhieni yn ei ddweud?

Roedd fy merch yn bryderus ynghylch dechrau, ond dim ond dyddiau wedyn roedd yn disgwyl wrth y drws am ei thacsi. Nid oedd yn gallu aros i gyrraedd yno, mwynhaodd y profiad gymaint.”

Gwna’r Ganolfan Iaith waith eithriadol wrth sicrhau bod y plant yma'n dod yn aelodau cyflawn yn eu pentrefi a’u hysgolion."

Mae fy mab yn teimlo’n fwy hyderus rwan, ac yn fwy o ran o’i ysgol yn hytrach na chael ei adael ar ôl.

Buaswn yn argymell unrhyw hwyrddyfodwr ifanc i fynychu. Mae’n rhoi hyder iddynt. Gwelant y Ganolfan Iaith yn gymorth mawr i’w galluogi i siarad, darllen ac ysgrifennu. Mae fy mhlant i gyd wedi mynychu ac wedi mwynhau y profiad a’u hamser yn y Ganolfan.”

 

Sut ydych yn delio a’r Cwricwlwm yn ei gyfanrwydd?

Mae’r pwyslais ar ddysgu siarad, darllen ac ysgrifennu  Cymraeg. Fodd bynnag, dysgir geirfa fathemategol yn ystod y tymor. Bydd y plentyn hefyd yn profi agweddau eraill o’r cwricwlwm ac yn datblygu geirfa Technoleg, Gwyddoniaeth ac Astudiaethau’r Amgylchfyd.

 

Pa mor hir fyddant yn y Ganolfan?

Gwneir cais am le gan y fam ysgol ac mae mynediad ar sail tymor llawn amser.

 

Beth a ddisgwylir i’r disgyblion ei gyflawni o fewn tymor?

Gydag agwedd gadarnhaol, bydd gan bob disgybl ddigon o feistrolaeth ar yr iaith er mwyn integreiddio’n llawn i waith a bywyd ysgol a’r gymuned.

 

A yw’r disgyblion yn cael cinio ysgol?

Mae cinio ysgol ar gael i bawb ar y safle. Bydd y cinio yn cael ei baratoi gan gwmni Chartwells.

 

Beth allwn ei wneud i helpu?

  • Bod yn bositif ac yn gefnogol;

  • Cefnogi eich plentyn i siarad Cymraeg gyda ffrindiau a chymdogion.

 

Sut fydd fy mhlentyn yn teithio i’r Ganolfan?

Darperir cludiant yn rhad ac am ddim gan yr Awdurdod Addysg, o’r cartref, drwy ddefnyddio contractwyr cludiant ysgol.