Canolfannau Iaith Cyngor Sir Ynys Môn

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymedig, trwy’r gwasanaeth Dysgu, i sicrhau fod pob disgybl sydd yn eu gofal yn meddu ar sgiliau dwyieithrwydd llawn Cymraeg a Saesneg ar ddiwedd eu cyfnod mewn addysg ffurfiol yn yr Awdurdod.

I’r mwyafrif o’r disgyblion yn ein gofal, mae cywain y ddwy iaith yn broses naturiol sydd yn rhedeg trwy eu gyrfa ysgol, ond nid yw hyn yn wir am bawb.

Er mwyn sicrhau tegwch i ddisgyblion sy’n ymuno ag ysgolion Môn yng Nghyfnod Allweddol 2 heb y medrau Cymraeg angenrheidiol, mae gan y Cyngor Ganolfan Iaith Gynradd a hynny ar ddwy safle, un yn Ysgol Gynradd Moelfre,  a’r llall yn Ysgol Cybi, Caergybi. Mae Canolfannau Iaith yn treulio tymor yn y Ganolfan cyn gynted a phosibl wedi iddynt symud i’r Sir, gan gael eu cludo o’u cartref ac yn ôl yn ddyddiol.

Yn ystod eu tymor yn y Ganolfan, o dan arweiniad athrawon iaith profiadol iawn, rhoddir darpariaeth dysgu iaith dwys a hwyliog i’r disgyblion ac mae profiad blynyddoedd yn dangos i ni ei fod yn amser gwerth ei dreulio ac yn fuddsoddiad rhagorol yn nyfodol y disgyblion. Mewn cwta ddeg wythnos mae’r digyblion yn amsugno elfennau’r iaith ac yn dod yn siaradwyr  Cymraeg medrus. Pan fyddant yn dychwelyd i’w mam ysgol, mae nhw’n gallu gweithio, dysgu a chwarae’n y ddwy iaith a thrwy hynny, ymdoddi’n llawn i fywyd eu hysgol yn gyfforddus, hyderus a hapus.

Yn achlysurol, darperir cyrsiau ôl ofal i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.

Mae’r Cyngor Sir yn ymfalchio yn y gyfundrefn ac yn llwyr ymrwymedig i sicrhau fod pob disgybl yn gallu manteisio’n llawn ar y medrau priodol fydd yn eu galluogi i weithio a byw mewn cymdeithas ddwyieithog sy’n nodweddu’r rhan hon o Gymru a thu hwnt, ac y mae tystiolaeth gadarn yn dangos fod y disgyblion a’u rhieni yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn yn fawr.